Lleoliad:
Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 7 Mehefin 2022
Amser:
09.04 -
09.19
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Darren Millar AS Siân Gwenllian AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Jane Dodds AS Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newid a ganlyn:
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Nododd y Pwyllgor Busnes fod grŵp y Ceidwadwyr yn bwriadu newid ei aelod ar y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad o Peter Fox i James Evans. Felly, tynnodd y Llywydd sylw'r Pwyllgor Busnes at yr ychwanegiad canlynol at yr agenda ar gyfer y cyfarfod yfory:
Cafodd y Pwyllgor Busnes ei atgoffa gan y Llywydd o’i bwriad ynghylch amser siarad a ddyrennir i Aelodau yn ystod y ddadl 120 munud yfory ar adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd.
Gorchuddion wyneb
Cafodd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad ar y sefyllfa o ran gwisgo gorchuddion wyneb ar yr ystâd. Gan nad yw gwisgo gorchuddion wyneb bellach yn ofynnol wrth symud o gwmpas yr adeilad, er bod defnyddwyr adeiladau'n cael eu hannog i barhau i wneud hynny mewn sefyllfaoedd risg uwch, cytunodd y Pwyllgor y byddai defnyddio gorchuddion wyneb yn y Siambr bellach yn fater o ddewis unigol i'r Aelodau. Cytunwyd y byddai diweddariad cyffredinol ar ddefnyddio gorchuddion wyneb ar yr Ystâd yn cael ei ddosbarthu i'r Aelodau.
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Nid oes unrhyw newidiadau i amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. Tynnodd y Trefnydd sylw at y ffaith bod dadleuon a'r cyfnod pleidleisio wedi'u trefnu cyn datganiadau gweinidogol ar 28 Mehefin oherwydd bod darlith gyfansoddiadol yn cael ei chynnal y noson honno, ac y bydd pob Aelod yn cael gwahoddiad.
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 29 Mehefin 2022 -
· Datganiad Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus: Cyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru 2020/21 (30 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Aros yn iach? Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl yng Nghymru (60 munud)
· Dadl ar Ddeiseb P-06-1277: Achub yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys. Rhaid i Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg gadw gofal brys 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos, dan arweiniad meddyg ymgynghorol
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
4 Deddfwriaeth
4.1 Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
Cafodd y Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol a chytunodd ar y canlynol:
4.2 Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd - Y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio
Nododd y Pwyllgor y llythyr.
4.3 Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol - Y Bil Caffael
Nododd y Pwyllgor y llythyr.
5 Pwyllgorau
5.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau - cais am ddadl yn y Cyfarfod Llawn
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gais y Pwyllgor Deisebau am ddadl ar ddeiseb P-06-1277 Achub yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys. Rhaid i Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg gadw gofal brys 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos, dan arweiniad meddyg ymgynghorol, i'w hamserlennu ar 29 Mehefin.
6 Unrhyw faterion eraill
Gofynnodd y Llywydd i'r Rheolwyr Busnes atgoffa eu Haelodau bod ganddynt tan ddiwedd y dydd ddydd Iau 9 Mehefin i ymateb i'r arolwg sy'n rhan o adolygiad y Pwyllgor Busnes o Reol Sefydlog 34 a chyfranogiad o bell yn nhrafodion y Senedd.
Gofynnodd Darren Millar pryd y bydd balot nesaf y Bil Aelod yn cael ei gynnal. Dywedodd y Llywydd y byddai'n ystyried cyngor cyn bo hir ac mai ei bwriad yw cynnal balot arall cyn gynted â phosibl.